P-05-1059 Dylid rhoi mannau addoli mewn dosbarth hanfodol, er mwyn caniatáu i bobl fynd i eglwys yn ystod cyfnod o gyfyngiadau symud
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Clyde Thomas, ar ôl casglu cyfanswm o 3,591 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae mannau addoli wedi'u dosbarthu fel mannau nad ydynt yn hanfodol gan Lywodraeth Cymru. Goblygiadau hyn, yn ei hanfod, yw bod eglwysi wedi cael eu rhoi yn yr un dosbarth o ran pwysigrwydd â siopau manwerthu ac ni allant gynnal gwasanaethau yn ystod "cyfnod atal byr" neu "gyfyngiadau symud". Nid oes tystiolaeth bod eglwysi wedi cyfrannu at ledaeniad Covid-19. Mae eglwysi wedi bod yn un o'r enghreifftiau gorau o amgylcheddau sy’n ddiogel o ran Covid-19, ac maent wedi dilyn canllawiau helaeth, afresymol bron, yn llym, i wneud eu rhan dros y genedl.
Gwybodaeth Ychwanegol
Er bod rhai wedi dadlau y gall eglwysi barhau i weithredu ar-lein, mae hyn ar draul yr ymdeimlad o gymuned. Mae hyn yn arwain at niwed diangen i bobl, pan nad oes dim tystiolaeth bod eglwysi wedi cyfrannu at ledaeniad Covid-19.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Tor-faen
· Dwyrain De Cymru